Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Prif Weinidog yn dwyn y teitl Perthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat.

22 Ebrill 2014

 

Mae’r papur hwn yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Prif Weinidog ar berthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat, yn ôl cais llythyr y Pwyllgor ar 7 Mawrth 2014.  Mae’r papur hwn hefyd yn nodi’r wybodaeth ychwanegol yn ymwneud a Phrosiectau Seilwaith Mawr yng Ngogledd Cymru, y gwnaethpwyd cais amdanynt hefyd yn llythyr y Pwyllgor ar 7 Mawrth 2014.

Mae ymatebion manwl i’r argymhellion o ran perthynas Llywodraeth Cymru gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Preifat wedi eu nodi isod:

Argymhelliad 1

Hoffem i chi egluro mwy am weledigaeth y Llywodraeth ar gyfer partneriaeth strategol gyda’r Trydydd Sector ac yn benodol, sut yr eir i’r afael a meysydd sy’n cystadlu â’i gilydd o ran gweld gwerth mewn gwaith gwirfoddol a sicrhau hefyd bod y sector gwirfoddol yn parhau i fod yn annibynnol ac nid yn gangen arall o’r Llywodraeth.

Ymateb: Derbyn  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod sefydliadau’r Trydydd Sector yn gyrff annibynnol, dilywodraeth wedi eu sefydlu gan bobl wirfoddol sy’n dewis eu trefnu eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru yn parchu annibyniaeth y sector.

Datblygwyd y Cynllun Trydydd Sector newydd a’r atodiad Cod Ymddygiad i Ariannu’r Trydydd Sector, mewn partneriaeth gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn dilyn ymgynghori ehangach, a ddigwyddodd rhwng mis Mai a mis Awst y llynedd.

Ymdrinnir ag annibyniaeth y sector ym Mhennod 2 o Gynllun y Trydydd Sector 2014. Er hwylustod i chi, rwyf wedi atodi’r testun perthnasol isod.

Natur y Berthynas

2.4. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydnabod a hybu’r Trydydd Sector.

 Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r Trydydd Sector am y cyfraniad mae’r sector yn ei wneud at les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol hirdymor Cymru, ei phobl a’i chymunedau.

 

 

2.5. Rhaid i’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector fod yn seiliedig ar onestrwydd, ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. 

 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weld y berthynas hollbwysig hon sydd wedi datblygu dros gyfnod hir yn aeddfedu, er lles pobl a chymunedau yng Nghymru.

 

 

2.6. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i weithio mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector yn ogystal â gwasanaethau a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Rhaid i bartneriaethau effeithiol fod yn seiliedig ar werthfawrogiad o gyfraniad unigryw pob parti

 

 .

2.7. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y Trydydd Sector yn cydnabod lle blaenaf Gweinidogion Cymru wrth lunio polisïau a deddfwriaethau. Yn ei thro, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cwmpas eang ac amrywiaeth gweithgarwch gwirfoddol ym mhob rhan o gymdeithas a’r cyfraniad y mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol a gwirfoddolwyr unigol yn ei wneud at fywyd economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac ieithyddol Cymru

 

 .

2.8. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gyrff annibynnol sy’n penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain ac yn rheoli eu materion eu hunain, a bod gan y Trydydd Sector ddyletswydd i gynrychioli buddiannau’r rheini mae’n eu cynrychioli. Cydnabyddir hefyd bod mudiadau Trydydd Sector yn gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cawsant eu seilio arnynt

 

 . Maent yn atebol i’w haelodau a’r unigolion a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw, ac i gyrff rheoleiddio fel y Comisiwn Elusennau.  

2.9. Ar sail y gyd-ddealltwriaeth hon o rolau’i gilydd, cydnabyddir bod y Trydydd Sector yn bartner allweddol wrth lunio a chyflawni sawl agwedd ar bolisi cyhoeddus, ac o’r herwydd dylai ddatblygu partneriaethau cryf â llywodraeth genedlaethol a lleol.

 

 

Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ymrwymo Llywodraeth Cymru ymhellach i ddatblygu Fframwaith Ymgysylltu er mwyn cefnogi’r mecanwaith i sicrhau sianelau clir o gyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector. Mae swyddogion yn y broses o ddatblygu’r Fframwaith hon mewn partneriaeth a chynrychiolwyr Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

Fel rhan o’r broses honno, caiff y Fframwaith ei rhannu ar draws y llywodraeth a’r Trydydd Sector.  Caiff pob Rhwydwaith Trydydd Sector a’r Gweinidog wahoddiad i baratoi rhestr o flaenoriaethau lle byddai gweithio ar y cyd o fudd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Seilwaith y Trydydd Sector yng Nghymru i ddatblygu a chefnogi unigolion a grwpiau i gynnal gweithgarwch gwirfoddol, yn ogystal â darparu arian uniongyrchol ac anuniongyrchol i amrediad eang o sefydliadau Trydydd Sector unigol, cenedlaethol a lleol sy’n gweithredu yng Nghymru.  Fel y nododd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar 12 Tachwedd y llynedd, yn ein cefnogaeth i wirfoddoli ar draws Cymru, bydd y pwyslais ar gefnogaeth i sefydliadau bychan, lleol sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i wydnwch cymunedau a chyflwyno gwasanaethau lleol.

Rydym yn cydnabod nad yw gorddibyniaeth ar arian y sector cyhoeddus yn meithrin annibyniaeth y Trydydd Sector, na gwaith partneriaeth effeithiol rhwng y sectorau.   Oherwydd hynny, rydym yn parhau i roi cryn bwyslais ar yr angen i sefydliadau gael mynediad at ffynonellau arian eraill. Mae cefnogaeth i godi arian a datblygu sgiliau yn y maes hwn yn agweddau allweddol ar waith cyrff seilwaith y Trydydd Sector.  Mae’r cyrff yma’n gyfryngau pwysig i gefnogi datblygu sefydliadau a gwirfoddolwyr lleol, ac ar yr un pryd, maent yn galluogi’r Trydydd Sector i weithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus ar bob lefel.

Gallaf sicrhau’r Pwyllgor nad oes bwriad i gyfyngu ar y Trydydd Sector rhag gweithredu’n annibynnol.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried y Trydydd Sector fel partner allweddol ac mae’n gweld gwerth yn y Trydydd Sector am y cyfraniad y mae’n ei wneud i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol tymor hir Cymru, ei phobl a’i chymunedau.

Oblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 2

Hoffem pe baech chi’n cytuno i osod datganiad blynyddol o flaen y Cynulliad o niferoedd, rôl, trefniadau adrodd ac aelodaeth pob Bwrdd Cynghori a Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad y sector preifat. Hoffem hefyd i’r adroddiad amlinellu sut mae pob un o’r byrddau neu grwpiau wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar weithgareddau adrannau Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn flaenorol ac i nodi unrhyw newidiadau arfaethedig yn y dull gwaith ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Ymateb: Derbyn  

Byddwn yn cytuno i osod datganiad blynyddol o flaen y Cynulliad o niferoedd, rôl, trefniadau adrodd ac aelodaeth pob Bwrdd Cynghori a Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad y sector preifat.  Bydd hyn yn cynnwys datganiad ar ddylanwad eu gwaith ac unrhyw newidiadau a gynllunnir yn y dull gweithio yn y flwyddyn sydd i ddod.

Oblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 3

Hoffem i chi ddarparu datganiad i ni yn nodi sut, o fewn y broses Asesiad Effaith Rheoleiddiol, y mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith gronnus newidiadau polisi a deddfau newydd Cymru ar y sector preifat.

Ymateb: Gwrthod

Nid yw’n ofyniad cyffredinol o’r broses Asesiad Effaith Rheoleiddiol i asesu effaith gronnus newidiadau polisi a deddfwriaeth newydd Cymru ar y sector preifat yn gyffredinol.  Byddai cael hyn ym mhob achos yn anghymesur.  Ond, mae Asesiadau Effaith Rheoleiddiol wedi ystyried effaith gronnus polisi lle mae sector penodol wedi ei heffeithio gan nifer o bolisïau newydd neu newidiadau i’r ddeddf.  Mae’r dull hwn yn unol â’r canllawiau cyfredol gan Drysorlys ei Mawrhydi.  Mae’r broses ymgynghori yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid dynnu sylw Llywodraeth Cymru at achosion pan fyddant yn credu y gallai’r effeithiau gael effaith gronnus ar sector penodol a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu effeithiau o’r fath fesul achos.”

Oblygiadau ariannol: Dim

Gofynnwyd hefyd am gopi o’r gwerthusiad o Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru.  Mae copi o’r adroddiad wedi ei atodi er gwybodaeth i chi.

 

Mae ymatebion manwl yn ymwneud a’r wybodaeth ychwanegol y gwnaed cais amdani ar Brosiectau Seilwaith Mawr yng Ngogledd Cymru wedi eu nodi isod:

Argymhelliad 1:

Fel y nodais yn fy ngohebiaeth ar 8 Hydref, mae’r Rhaglen Lywodraethu’n disgrifio’r canlyniadau y mae’r Llywodraeth hon yn ymdrechu i’w cyflawni.  Er mwyn gwneud cynnydd tuag at y canlyniadau hyn, datblygir polisi’r Llywodraeth ar draws ac o fewn pob portffolio Gweinidogaethol yng nghyd-destun y Rhaglen Lywodraethu a chan roi ystyriaeth i bolisïau strategol cenedlaethol.  Mae cynnal datblygiad ein holl bolisïau a rhaglenni yn rhan o’n hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy fel ein hegwyddor drefniadol ganolog.

 Yn fy ymateb, eglurais sut mae’r broses hon yn gweithio a darperais ddiagram yn dangos y berthynas rhwng polisi, rhaglenni a phrosiectau.  Er mwyn rhoi enghraifft, roedd hyn yn cynnwys polisïau strategol cenedlaethol megis Cynllun Gofodol Cymru a Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.  O ran yr olaf, mae hwn hefyd yn cynnwys y Biblinell sy’n rhan greiddiol o’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.  Mae’r Biblinell yn cynnwys data buddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus lleol a chenedlaethol allweddol. Cynyddu amlygrwydd ac eglurder buddsoddi a gynllunnir mewn seilwaith ar draws Cymru, a hynny’n darparu’r wybodaeth i alluogi gwneud penderfyniadau buddsoddi ar sail strategaeth a gwneud y mwyaf o gyfleoedd cydweithredol posibl.

O ran y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, mae’r Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wrthi ar hyn o bryd yn adolygu’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i gynnwys blaenoriaethau rhanbarthol a sefydlu fframwaith trafnidiaeth sy’n integreiddio cynllunio trafnidiaeth lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. 

Argymhelliad 2:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo drwy Ynni Cymru: Newid Carbon Isel i sicrhau fod cymunedau gaiff eu heffeithio gan ddatblygiadau ynni’n cael budd mawr o’r datblygiadau rheiny, ac rydym wrthi’n rhagweithiol gyda’r diwydiant a phartneriaid i sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir drwy ddatblygu ynni yng Nghymru o fudd i gymunedau a’i fod yn gosod sail i ffyniant economaidd tymor hir Cymru.

Hyd yma, mae ein prif sylw wedi bod ar ddatblygiadau gwynt ar y tir ac Ynys Ynni Môn.Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r diwydiant gwynt ar y tir i wneud asesiad o’r cyfleoedd i ddod â budd economaidd a chymunedol o ddatblygiadau gwynt masnachol yng Nghymru. Rydym wedi nodi mai’r manteision sy’n trawsffurfio fwyaf a ddaw o ddatblygiadau yw’r budd economaidd i fusnesau Cymru a’r cadwyni cyflenwi, gan arwain at greu swyddi a buddsoddi.

Mae Rhaglen Ynys Ynni Môn yn parhau i nodi a gwireddu cyfleoedd i fusnesau o Gymru sicrhau cyfleoedd o bob datblygiad ynni sydd ar yr Ynys. Mae’r cymorth yn amrywio o ddatblygu sgiliau yn y tymor hir, i sicrhau fod gan bobl leol y sgiliau y bydd ar fusnesau eu hangen, yn ogystal â digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi.

Drwy weithio mewn partneriaeth, mae’r diwydiant gwynt wedi cytûn o i ‘Ddatganiad’ sy’n eu rhwymo i weithio gyda’n cymunedau i sicrhau eu bod yn derbyn budd cadarnhaol tymor hir. Nod y Datganiad yw sicrhau dull cyson, eglur, cydweithredol a strategol wrth ymwneud a chymunedau ac amrediad o randdeiliaid. Hyd yma, mae dros ddwsin o ddatblygwyr ac Ynni Adnewyddol Cymru wedi ymuno i ddangos eu hymrwymiad. Mae’r Datganiad yn ymrwymiad gan y datblygwyr i sicrhau dull cyson a’r arfer orau o ran y ffordd y maen nhw’n ymwneud â chymunedau, ac i sicrhau’r budd economaidd a chymunedol mwyaf posibl. Fel rhan o’r Datganiad, mae’r diwydiant wedi cytuno i gydweithio mewn ardaloedd lle mae mwy nag un fferm wynt fel y caiff y gymuned y budd mwyaf. Rhan allweddol o’r Datganiad yw’r ymrwymiad gan ddatblygwyr i gefnogi cymunedau i wneud yn siŵr fod ganddynt fynediad at y cyngor a’r gwasanaethau gorau posibl pan fydd y cynllun budd cymunedol yn cael ei sefydlu a’i weinyddu.

Rydym yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau sylw mwy i gyflwyno budd ar raddfa ranbarthol a sicrhau mwy o arian lle bo modd.

Rydym bellach wedi lansio ein Cofrestr o Fudd Economaidd a Chymunedol o Ffermydd Gwynt ar y Tir, ac mae’n darparu mecanwaith hawdd ei defnyddio er mwyn adrodd - yn glir - am lefel a natur y budd sy’n gysylltiedig â datblygiadau gwynt ar y tir yng Nghymru. Mae’r Gofrestr yn cynnig cyfle unigryw i’r diwydiant ddangos sut maen nhw’n rhoi budd i gymunedau Cymru ac Economi Cymru, a daw yn adnodd gwybodaeth a chanllaw gwerthfawr i gymunedau sy’n datblygu eu pecynnau budd cymunedol eu hunain.

Argymhelliad 6:

O astudiaethau cynharach, nodwyd dau ddewis arall i fynd i’r afael â materion capasiti ar y rhan hon o’r rhwydwaith.  Mae’r dewisiadau eraill yma’n gofyn am asesiad Cam 2 Arweiniad ac Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i benderfynu pa lwybr sy’n briodol.  Yn dilyn penderfyniad ar y llwybr a ddewisir, y camau nesaf fyddai datblygu’r dyluniad a chyhoeddi cynigion.

 

O ystyried y gwaith sydd ei angen i ddatblygu’r cynllun, y dyddiad cynharaf tebygol i gychwyn adeiladu ar y tir fyddai yn 2019.

Argymhelliad 7:

Gellir cael mynediad at fanylion ein cynlluniau gwella ffyrdd yng Ngogledd Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru drwy’r ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/topics/transport/roads/schemes/?lang=en

Mae’r Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi sefydlu tasglu newydd i ddarparu cyngor ar y materion allweddol ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru gan gynnwys cysylltiadau ar draws y ffin.  Bydd y Tasglu’n darparu cyngor drwy hyn i gyd a disgwylir yr adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2014. Mae’r Tasglu wedi ei gadeirio gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.